I fod yn gymwys am gludiant i ysgol gynradd, rhaid i ddisgyblion fyw 2 filltir neu fwy o’r ysgol agosaf, wedi’i fesur ar hyd y pellter cerdded byrraf, a hynny ar hyd llwybrau cludiant sy’n bodoli eisoes, lle bo hynny’n ymarferol. Dylid nodi mai dim ond i’r ysgol sy’n derbyn plant o’r ardal yn arferol y darperir cludiant i ddisgyblion cymwys.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Uned Gludiant, Neuadd Sir Powys, Llandrindod. Ffôn: 0845 607 6060.