Mae Ffrindiau Ysgol Trefonnen yn elusen gofrestredig ac mae grŵp o rieni a staff yr ysgol yn dod at ei gilydd i helpu i drefnu digwyddiadau yn yr ysgol. Mae’r Ffrindiau yn cyfarfod bob hanner tymor ac mae’n cefnogi nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhieni a phlant ac hefyd y gymuned. Y mae nifer o rieni newydd wedi ymuno â’r grŵp yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi bod yn wych ac wedi helpu i gynhyrchu syniadau ffres. Mae croeso bob amser i aelodau newydd. Mae’r Ffrindiau wedi trefnu’r Ffair Haf, disgo, Ffair Nadolig a’r arddangosfa tân gwyllt yn yr ysgol ac yn ystod y tymor diwethaf helpodd y Ffrindiau gyda digwyddiadau eraill yn yr ysgol, fel y noson sinema a’r diwrnod bywyd gwyllt. Mae’r Ffrindiau wedi codi arian sylweddol ar gyfer yr ysgol sydd wedi cael eu defnyddio i brynu offer chwarae, offer drama, llyfrau, wedi ariannu noson ffarwelio blwyddyn 6 ac wedi helpu gyda’r lluniaeth ar ddiwrnod mabolgampau’r ysgol. Mae’r ffrindiau wedi cofrestru gyda’r cynllun ‘easy fundraising scheme’ a rydyn yn gobeithio y bydd yn helpu i godi hyd yn oed mwy o arian ar gyfer yr ysgol. Rydyn yn gobeithio y bydd rhieni a staff yn gallu cefnogi’r Ffrindiau drwy ddefnyddio’r cynllun hwn i brynu ar-lein. I gofrestru gyda’r cynllun yma cliciwch ar y linc isod a dechreuwch gyfrannu heddiw! http://www.easyfundraising.org.uk Os hoffech ymuno â’r FFrindiau neu rhoi help llaw gyda’r digwyddiadau cofiwch gysylltu â ni.