Eglwys y Drindod Sanctaidd

Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ac yn aelod o deulu yr Ysgol yng Nghymru. Mae datganiad cenhadaeth gan yr Eglwys yng Nghymru sydd yn egluro beth yw ystyr bod yn Ysgol Eglwys:

“Mae Ysgol Eglwys yn dyst i genhadaeth Crist yn yr Efengyl.

ble mae Iesu Grist yn sylfaen i ni;

ble mae pob person yn gyfwerth a chyda’r un cyfle i dyfu a datblygu i’w potensial llawn;

lle mae gan athrawon, staff, llywodraethwyr a rhieni ymrwymiad i addysg a datblygiad y person cyflawn;

lle mae’r chwilio am wybodaeth yn digwydd ochr yn ochr â chwilio am ffydd a thaith brofiad ysbrydol;

…fel…

bod pob plentyn yn dysgu o gyfoeth y byd a grëwyd, a chydio ym mhob cyfle i gyfrannu ato yn eu bywydau;

y gellir meithrin pob aelod o staff yn eu galwedigaeth i ddysgu;

y gellir dathlu pob llwyddiant a maddau pob diffyg;

y gall pob person yn yr ysgol hon wybod eu bod wedi eu creu yn nelw Duw.

Dylai pob ysgol fod yn lle arbennig, yn lle diogel, yn lle i ddysgu, yn lle i feithrin ac i chwilio. Rhaid i ysgol ddangos gonestrwydd ac ymostyngiad, goddefgarwch a maddeuant. Yma, mae gwerthoedd ac agweddau yn cael eu ffurfio ac mae pob unigolyn yn cael eu derbyn fel bodau unigryw.

Mae Ysgol Eglwys yn bob un o’r pethau hyn ac yn datblygu cymeriad Cristnogol nodedig trwy ddysg, addysg grefyddol, gweddi, addoli a gweithredu yn enw Crist sy’n gwneud cariad a phresenoldeb Duw yn hysbys i’r byd.

Yma yn Ysgol Trefonnen, hoffen ni weld ein plant yn datblygu i fod yn bobl sydd yn defnyddio eu rhoddion a’u talentau er lles y gymdeithas ehangach, ac sydd yn cyd-weithio ag eraill i fyw mewn cytgord â’r byd rydyn ni’n dibynnu arno.