Mae’r Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Saesneg yn gweithredu mewn dau grŵp.
Mae’r grwpiau Dechrau’n Deg yn rhedeg o 09:00y.b -11:30y.b, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod y tymor. Mae hwn yn agored i blant rhwng 2 a 3 oed sy’n byw yn nhalgylch Dechrau’n Deg.
Mae grŵp Y Blynyddoedd Cynnar 3+ yn rhedeg o 1:30y.p -3:30y.p, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod y tymor. Mae’r grŵp yn agored i blant o 3 oed hyd nes y byddant yn dechrau’r ysgol. Yn dilyn eu amser yn lleoliad y Blynyddoedd Cynnar, gall plant drosglwyddo i mewn i un o ddosbarthiadau Meithrin / Derbyn Ysgol Trefonnen.
Cylch Meithrin Llandrindod yw’r lleoliad cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg.
Mae grŵp Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg yn rhedeg 12:45y.p – 3:15y.p, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod y tymor. Mae hwn ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed sy’n byw yn nhalgych Dechrau’n Deg.
Mae`r Cylch yn rhedeg o 09:00y.b -11:30y.b, o Ddydd Llun i Ddydd Iau yn ystod y tymor. Mae hyn ar gyfer plant o 3 oed hyd nes y byddant yn dechrau’r ysgol. Mae’r Cylch a’r grŵp Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnig gofal ac addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os yw eich plentyn yn mynychu’r Cylch, byddant yn cael eu trwytho yn yr iaith Gymraeg: dysgu rhigymau, lliwiau a rhifau yn Gymraeg – byddwch yn synnu pa mor gyflym y maent yn datblygu! Yn dilyn eu amser yn y Cylch, gall rhieni ddewis i symud eu plant i’r dosbarth Meithrin / Derbyn yn y Ffrwd Gymraeg yn Ysgol Trefonnen.