Mae gennym ni ystod dda o glybiau ar gyfer plant yr ysgol i gyd. Dyma restr o’r clybiau sydd ar gael ar hyn o bryd. Rydyn ni’n chwilio’n gyson am ffyrdd i ehangu’r ystod o glybiau a gynnigwn yn Ysgol Trefonnen, a rydyn ni’n awyddus iawn i Rieni/Gofalwyr i gynnig unrhyw sgiliau sydd ganddyn nhw i’w dysgu i eraill. Cofiwch gysylltu, os gwelwch yn dda, a staff y swyddfa os hoffech gyfrannu tuag at y gweithgareddau.
Pel-rwyd Dydd Mercher 3.30 – 4.30 i flynyddoedd 5 a 6.
Young Voices Dydd Mawrth 3.30 – 4.30 i flynyddoedd 3-6 (Tymor yr Hydref yn unig.)
Clwb Cymraeg Dydd Iau 3.30 – 4.30 i flynyddoedd 1-6 yn y Ffrwd Gymraeg (Tymor yr Hydref a Gwanwyn)
Criw Cymraeg Dydd Iau (yn ystod amser cinio unwaith bob tair wythnos) i flwyddyn 2 yn y ffrwd Saesneg.)
Clwb Amser Cinio Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener (yn ystod amser cinio) i flynyddoedd 3-6.
Clwb Gwaith Cartref Dydd Mawrth (yn ystod amser cinio) i flynyddoedd 3-6.
Clwb Brecwast Mae gennym ni Glwb Brecwast poblogaidd a llwyddiannus iawn sy’n dechrau am 8.15 y bore hyd at 8.50 y bore. Mae brecwast yn cynnwys grawnfwyd neu dost a chwpaned o sudd ffrwythau. Mae’n rhad ac am ddim.
Clwb Ar Ol Ysgol Mae Clwb Ar ol Ysgol yn cael ei gynnal yn ystafell Cylch Chwarae’r Blynyddoedd Cynnar Saesneg o 3.30 y.p tan 5.30 y.p bob dydd. Mae angen i Rieni/Gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru os ydyn nhw’n dymuno i’w plant fynychu’r clwb. Cofiwch fod Clwb ar ôl Ysgol hefyd yn cymryd taliad drwy Dalebau Gofal Plant.