Amdanom Ni

croeso1 Ein Gweledigaeth: Gofalu, ysbrydoli, cyflawni gyda’n gilydd Ysgol Eglwys ddwy ffrwd, wirfoddol reoledig, gymunedol i blant 4-11 oed yw Ysgol Trefonnen; mae rhai o’r plant yn dysgu’n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy gyfrwng y Saesneg. Ond, mae’r plant i gyd yn rhannu’r un profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol y mae wyth ystafell ddosbarth, ystafell i rieni a’u plant bach, Ti a Fi, grwp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Saesneg) a Chylch Meithrin. “Mae Cymru yn falch o gael dwy iaith genedlaethol: Saeneg a Cymraeg. Nod hir dymor Llywodraeth Cymru yw y bydd Cymru yn wlad gwbl ddwyieithog…lle mae bodolaeth y ddwy iaith yn fater o falchder a chryfder ni i gyd.” (Iaith Pawb, WAG)

s_childrenlogosmalls-300x296

Rydyn ni’n hyrwyddo cyfleoedd i’n plant i gyd i ddathlu eu diwylliant, eu hetifeddiaeth a’r iaith Gymraeg, drwy ddigwyddiadau Dydd Gwyl Dewi a chystadlu mewn Eisteddfodau. Tra mae’r plant yn y Ffrwd Gymraeg yn dysgu drwy’r Gymraeg yn bennaf, mae’r plant yn y Ffrwd Saesneg yn cael budd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith trwy ddarllen, ysgrifennu a siarad a chlywed Cymraeg yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol. Fel ysgol, y mae gynnon ni gysylltiadau agos a’r Eglwys leol a’i harweinwyr sy’n cael effaith gadarnhaol ar ethos Gristnogol yr ysgol. Rydym yn ymfalchio yn ein hysgol a’i hamyrgylch hapus, hamddenol a bwriadus. Mae gynnon ni amgylchfyd cynnes, diogel ac ysgol sydd yn ein galluogi i anelu at ddarganfod y gorau ym mhob plentyn.

Croeso i Ysgol Gymunedol yr Eglwys yng Nghymru, Trefonnen.

Ysgol Eglwys ddwy ffrwd, wirfoddol reoledig, gymunedol i blant 4-11 oed yw Ysgol Trefonnen; mae rhai o’r plant yn dysgu’n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy gyfrwng y Saesneg. Ond, mae’n plant i gyd yn rhannu’r un profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol y mae wyth ystafell ddosbarth, ystafell i rieni a’u plant bach, Ti a Fi, grwp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (Cyfrwng Saesneg) a Chylch Meithrin.

quilt

healthy-schoolseco-sgolion